Dewiniaeth y sêl
Oddi ar Wicipedia

Sêl o'r enw Eris
Mae dewiniaeth y sêl (Sigil Magic yn Saesneg) yn dechneg fodern (o'r 20fed ganrif) o ddefnyddio hud. Cafodd y dechneg ei chreu gan Austin Osman Spare a'i hyrwyddo gan ymarferwyr dewiniaeth Caos. Mae'r dewin yn dewis ymadrodd sy'n mynegi bwriad dewinol. Yna mae'n ysgrifennu'r ymadrodd ar bapur ac yna'n ddileu llythrennau dyblyg sy'n ymddangos yn y frawddeg. Wedyn mae'n creu ailgyfuniad artistig gyda gweddill y llythrennau i ffurfio delwedd y sêl. Yn olaf mae'n defnyddio'r sêl i alluogi'r bwriad dewinol mae'n cynrychioli trwy gnosis.