Dinas Panama
Oddi ar Wicipedia
Prif ddinas Panama yw Dinas Panama (Panamá). Mae hi ar arfordir Cefnfor Tawel ac ar Camlas Panamá a mae tua 708,738 o bobl yn byw yno. Mae hi'r canolbarth gwleidyddiaethol, gweinyddiaethol a diwylliannol yr wlad.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y dinas hon gan Pedro Arias de Avila (Pedrarias Davila) ar 15 Awst, 1519. Ers y pryd hynny, roedd masnach ar draws y culdir yn bwysig iawn i'r dinas. O yma roedd yr alldaith a choncwest Periw yn dechrau a roedd yr aur a'r arian yn cael eu danfon i Sbaen trwy'r dref. Ym 1671 roedd Henry Morgan a 1400 o dynyon eraill yn ymosod ar y dref a llosgwyd o ganlyniad. Mae olion y dref i'w weld hyd yn oed heddiw am adeiladwyd y dref newydd rhai 5 milltir i'r gorllewin ym 1673. Enw'r olion y dref cyntaf yw Panamá la Vieja a mae llawer o twristiaid yn mynd i'w weld hi.
Pan ddarganfuwyd aur yn California ym 1848 roedd nifer y teithwyr yn mynd trwy Panamá i'r gogledd yn cynyddu. Y flwyddyn cyn hynny, sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Panamá, ond doedd trenau ddim yn rhedeg cyn 1855. Beth bynnag, adeiladwyd y rheillffordd gyntaf o arfordir gorllewinol i arfordir dwyreiniol Unol Daleithiau America ym 1869, ac felly roedd tua 375,000 o bobl yn teithio trwy Panamá i'r arfordir gorllewinol a thua 225,000 o bobl i'r arfordir dwyreiniol. Wrth gwrs, roedd hynny'n golygu y bu Panamá yn ddinas gyfoethog iawn ar y pryd.
Roedd Camlas Panamá yn golygu ffyniant o'r newydd i'r ddinas. Yn bennaf, roedd iechyd y boblogaeth yn gwella o ganlyniad i waith yr Americanwyr yng Nghylchfa'r Camlas: Roedd llai o glefyd melyn a malaria a roedd y gwasanaeth dŵr yn well. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd adeiladwyd canolfannau milwrol gan UDA ar hyd y camlas. O ganlyniad roedd llawer o bobl milwrol a sifil yn dod i'r ddinas ac yn gwario eu arian yno, ond ar llaw arall doedd pawb ddim yn hapus i weld byddin gwlad dramor yn eu gwlad ac roedd llawer o'r canolfannau milwrol ar lannau'r gamlas - a felly roedd hi'n amhosibl i'r trigolion cyrchu yno cyn yr 1960au.
Rhwng y 1970au a'r 1980au daeth Panamá i fod yn ganolfan i fanciau rhyngwladol, ond yn anffodus roedd problemau gyda "golchi arian" hefyd.
Ar ôl bron i flwyddyn o densiwn rhwng UDA a Panamá, gorchmynodd Arlywydd Bush oresgyniad Panamá a chwymp General Manuel Noriega. O ganlyniad, llosgwyd un ardal o'r ddinas o'r enw El Chorillo, ond cafodd ei ail-adeiladu gan arian o'r UDA yn hwyrach.
Heddiw, mae'r ddinas yn dal i fod yn ganolfan bancio rhyngwladol. Mae porthladd yn Balboa, y dref gyfagos.