Dolavon
Oddi ar Wicipedia
Mae Dolavon yn dref fechan yn nhalaith Chubut, Ariannin ac yn rhan o'r Wladfa.
Saif Dolavon tua 18 km o Gaiman ar y ffordd i Esquel. Mae dylanwad Cymreig yn gryf yma, ac ymhlith yr adeiladau o ddiddordeb mae'r capel Cymraeg, Capel Carmel, a'r Hen Felin. Mae nifer o enwogion y Wladfa megis y bardd Glan Caeron, wedi eu claddu yn y fynwent.