Dushanbe
Oddi ar Wicipedia
Dushanbe (Tajikeg: Душанбе, دوشنبه; hefyd Dyushambe neu Stalinabad) yw prifddinas Tajikistan yng Nghanolbarth Asia. Mae ganddi boblogaeth o 562,000 o bobl (2000 census). Daw'r enw o'r gair Perseg am ddydd Llun (du "dau" + shamba neu shanbe "dydd") ac mae'n cyfeirio at y ffaith fod Dushanbe'n arfer cynnal marchnad boblogaidd ar y Llun. Er i dystiolaeth archaeolegol ddangos fod trigfannau yno mor gynnar â'r 5fed ganrif C.C., nid oedd ond yn bentref bach tan o gwmpas 80 mlynedd yn ôl.