Dydd Sadwrn
Oddi ar Wicipedia
Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod o'r wythnos. Mae gwahanol rannau o'r byd yn ei ystyried yn chweched neu'n seithfed diwrnod yr wythnos. Cafodd ei enwi ar ôl Sadwrn, un o dduwiau'r Rhufeiniaid.
[golygu] Termau'r chwarelwyr a'r glowyr
- 'Sadwrn bownti' - telid bonws am glirio rwbel yn y chwareli (Gogledd)
- 'Sadwrn cyfrif' - telid cyflog pythefnos neu fis ar y Sadwrn (De a Gogledd)
- 'Sadwrn cyfrif mawr' - cyffelyb i'r uchod (Gogledd)
- 'Sadwrn du' - y Sadwrn ar ôl y Sadwrn cyfri, pan na cheid cyflog (Morgannwg, Gogledd-ddwyrain)
- 'Sadwrn pae' ('Sadwrn tâl') = Sadwrn cyfrif
- 'Sadwrn syb' ('Sadwrn sist') - Sadyrnau y telid benthyciad i aros pryd tan y Sadwrn cyfrif nesaf (Gogledd)
Ffynhonnell: Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 3156
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Dyddiau'r wythnos |
---|
Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener | Dydd Sadwrn | Dydd Sul |