Dyffryn Aeron
Oddi ar Wicipedia
Dalgylch Afon Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Dyffryn Aeron. Mae'n ymestyn i'r de-ddwyrain o Aberaeron ar yr arfordir am tua deg milltir, hyd at Silian ger Llanbedr Pont Steffan. Pentrefi eraill y dyffryn yw Aberarth, Bethania, Ciliau Aeron, Cribyn, Cross Inn, Dihewyd, Felinfach, Ffos-y-ffin, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Nebo, Pennant, Llwyncelyn ac Ystrad Aeron.