Eats, Shoots and Leaves
Oddi ar Wicipedia
Llyfr gan Lynne Truss ar bwnc atalnodi yw Eats, Shoots & Leaves: The Zero Tolerance Approach to Punctuation. Fe'i cyhoeddwyd yn 2003. Mae'r awdur yn hiraethu am adeg well pan allai pobl atalnodi, yn ei barn hi, ac yn taranu yn erbyn troseddwyr atalnodi'r oes hon. Er bod hiwmor yn ganolog i'r gwaith, mae'r awdur o ddifrif yn ei nod wrth ysgrifennu'r llyfr, sef annog pobl i atalnodi'n gywir.