Ednyfed Hudson Davies
Oddi ar Wicipedia
Mae Gwilym Ednyfed Hudson Davies (ganed 4 Rhagfyr, 1929) yn gyn-wleidydd Cymreig. Yn fab i Curig Davies. Newidiodd ei gyfenw i Hudson Davies.
Addysgwyd Hudson Davies yn Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, Prifysgol Cymru, Abertawe, a Coleg Balliol, Rhydychen. Daeth yn ddarlithydd ar lywodraeth ac yn ddarlledwr.
Ymunodd â'r Blaid Lafur a chafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Conwy yn 1966, ond collodd y sedd i Wyn Roberts yn 1970. Cafodd ei ethol i gynrychioli Caerffili, yn 1979. Yn 1981 yr oedd ymhlith yr ASau Llafur a ymunodd â'r SDP newydd.
Yn 1983 safodd fel ymgeisydd yr SDP yn Basingstoke ond collodd. Ers hynny mae wedi ymddeol o wleidyddiaeth plaid.
Rhagflaenydd: Peter Thomas |
Aelod Seneddol dros Gonwy 1966 – 1970 |
Olynydd: Wyn Roberts |
Rhagflaenydd: Fred Evans |
Aelod Seneddol dros Gaerffili 1979 – 1983 |
Olynydd: Ron Davies |