Einion Yrth ap Cunedda
Oddi ar Wicipedia
Roedd Einion ap Cunedda (420? - 500?), a elwir hefyd yn Einion Yrth yn un o frenhinoedd cynharaf Gwynedd.
Roedd Einion yn fab i Gunedda Wledig, a chredir iddo ddod i Wynedd o'r Hen Ogledd (yn ne'r Alban heddiw) gyda'i dad rywbryd cyn 450 i ymladd yn erbyn y Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu yno. Wedi marwolaeth Cunedda, efallai tua 460, Einion a etifeddodd y diriogaeth a fyddai'n datblygu i fod yn deyrnas Gwynedd.
Yn ôl y traddodiad roedd ganddo saith o frodyr; rhoddodd ei frawd Ceredig ei enw i Geredigion, a'i nai Meirion ei enw i Feirionnydd (mae nifer o ysgolheigion yn credu erbyn heddiw mai ymgais i esbonio'r enwau lleol yw'r traddodiad am hynny).
Yn ôl un o'r Achau traddodiadol roedd yr arwr Gwgon Gleddyfrudd yn fab iddo, ond nid oes sicrwydd am hynny.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978). D.g. Cunedda.
- M.P. Charlesworth, The Lost Province (Darlithoedd Gregynog, 1948, 1949)
O'i flaen : Cunedda Wledig |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Cadwallon Lawhir |