Elias Lönnrot
Oddi ar Wicipedia
Ieithydd, bardd a chasglwyr llên gwerin o'r Ffindir oedd Elias Lönnrot (1802 - 1884), a aned yn Sammatti yn ardal Nyland.
O ran ei alwedigaeth roedd Lönnrot yn feddyg cefn-gwlad am ugain mlynedd yn Kajana a dreuliai ei amser yn cofnodi cerddi a baledi traddodiadol y werin, yn eu plith y Kalevala, arwrgerdd genedlaethol y Ffindir, a gyhoeddwyd ganddo rhwng 1838 a 1849. Mewn cydnabyddiaeth o'i waith apwyntiwyd Lönrot yn athro llenyddiaeth Ffinneg ym mhrifysgol Helsinki (1853 - 1862).
Yn ogystal â'r Kalevala cyhoeddodd geiriadur mawr Ffinneg-Swedeg (1866 - 1880) a osododd seiliau cadarn i'r iaith Ffinneg fel iaith lenyddol.
Ymddiddorai mewn botaneg hefyd ac yn 1860 cyhoeddodd ei Flora Fennica – Suomen Kasvisto, un o'r llawlyfrau cynharaf ar flodau a phlanhigion mewn iaith frodorol i ymddangos. Roedd y llyfr yn ddylanwadol iawn yn Llychlyn.