Elinor Bennett
Oddi ar Wicipedia
Telynores sydd wedi gweithio yng ngwledydd Prydain, Ewrop a'r Unol Daleithiau yw Elinor Bennett (ganwyd Ebrill 1943). Dafydd Wigley, yw ei gŵr. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanuwchllyn, Ysgol Ramadeg y Bala, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a'r Academi Gerdd Frenhinol, Llundain.