Eluned Morgan (Y Wladfa)
Oddi ar Wicipedia
Roedd Eluned Morgan (1870 - 29 Rhagfyr 1938) yn un o lenorion amlycaf Y Wladfa ym Mhatagonia.
Ganed hi ar fwrdd y llong Myfanwy ym Mae Biscay. Ei thad oedd Lewis Jones, ond bedyddiwyd hi â'r cyfenw "Morgan". Magwyd hi yn y Wladfa a'i haddysgu yn yr ysgol Gymraeg yno. Teithiodd i Gymru yn 1885 ac eto yn 1888 pan dreuliodd ddwy flynedd yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau. Wedi dychwelyd i'r Wladfa, bu'n cadw ysgol breswyl i enethod yn Nhrelew am ddwy flynedd.
Daeth yn olygydd y papur newydd Y Drafod yn 1893, ac wedi ymweliad arall â Chymru yn 1896, bu'n cyhoeddi ysgrifau yn Cymru O.M. Edwards. Sefydlodd ysgol ganolraddol Gymraeg yn Gaiman, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio yn Llyfrgell Caerdydd ac yn darlithio ar y Wladfa. Bu'n byw yng Nghaerdydd eto rhwng 1912 a 1918, cyn dychwelyd i'r Wladfa, lle bu farw yn 1938.
[golygu] Llyfrau
- Dringo'r Andes (1904, ail arg. 1907, 3ydd arg. 1917)
- Gwymon y Môr (1909)
- Ar Dir a Môr (1913)
- Plant yr Haul (1915, 3ydd arg. 1926)
- Gyfaill hoff...: detholiad o lythyrau Eluned Morgan gyda rhagymadrodd a nodiadau gan W. R. P. George (Llandysul: Gwasg Gomer, 1972).
[golygu] Llyfryddiaeth
- R. Bryn Williams Eluned Morgan: bywgraffiad a detholiad (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1948)