Enoc Huws
Oddi ar Wicipedia
Nofel gan Daniel Owen yw Profedigaethau Enoc Huws. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1891, ac yn ddiweddar mae wedi ei haddasu ar gyfer y teledu.
Mae'n rhoi hanes un Enoc Huws, a ddygwyd i fyny fel plentyn amddifad ond sydd, trwy waith caled, gonestrwydd a charedicrwydd, yn dod yn fasnachwr llwyddiannus. Mewn gwrthgyferbyniad, y prif gymeraid arall yw Capten Trefor, twyllwr di-egwyddor sydd yn ymddangos wedi ennill cyfoeth mawr yn y diwydiant mwyngloddio plwm, ac sydd yn denu eraill i 'fuddsoddi' yn ei fenter. Ofnwn y bydd Enoc Huws, sydd â golwg ar Susan, merch y Capten, yn cael ei ddifetha yn yr un ffordd.
Er yn thema difrifol, mae ambell i ddigwyddiad doniol iawn yn cael eu hadrodd, yn enwedig yn y perthynas rhwng Enoc a'i forwyn, Marged.
Brwydr rhwng y da a'r drwg yw thema'r llyfr ond mae tro annisgwyl tuag at ddiwedd yr hanes sy'n creu amheuaeth a yw'r da am orchfygu.