Eunapius
Oddi ar Wicipedia
Rhethregydd Groeg a anwyd yn Sardis yn O.C. 347 oedd Eunapius.
Yn y flwyddyn 405 ysgrifenodd gyfrol o fywgraffiadau tri ar hugain o athronwyr a soffyddion cynharach neu gyfoes. Er nad yw wedi ei hysgrifennu'n dda erys yn ffynhonell bwysig ar gyfer hanes Newydd-Blatoniaeth yn y cyfnod hwnnw.
Mae sawl dryll o barhad o gronicl gan Herennius Dexippus wedi goroesi yn ogystal. Roedd y parhad hwnnw, mewn 14 llyfr, yn rhychwantu'r cyfnod rhwng O.C. 268 a 404; fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan yr hanesydd Bysantaidd Zosimus (fl. ail hanner y 5fed ganrif).
[golygu] Ffynonellau
- F.W. Hall, A Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913)
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)