Euripides
Oddi ar Wicipedia
Dramodydd Groegaidd oedd Euripides (Groeg: Εὐριπίδης) (ca. 480 CC–406 CC). Ef oedd yr olaf o dri trasiedydd mawr Athen, gyda Aeschylus a Sophocles. Mae deunaw o'i ddramâu wedi goroesi.
Dywedir ei fod yn enedigol o Ynys Salamis, ac iddo gael ei eni ar 23 Medi 480 CC, dyddiad Brwydr Salamis. Treuliodd ei ddyddiau olaf yn Pella, prifddinas teyrnas Macedon, yn cyfansoddi'r ddrama Archelaus.
[golygu] Dramâu wedi goroesi'n gyflawn
- Alcestis (438 CC)
- Medea (431 CC)
- Heracleidae (c. 430 CC)
- Hippolytus (428 CC)
- Andromache (c. 425 CC)
- Hecuba (c. 424 CC)
- Y Deisyfwyr (c. 423 CC)
- Electra (c. 420 CC)
- Heracles (c. 416 CC)
- Gwragedd Troia (415 CC)
- Iphigeneia yn Tauris (c. 414 CC)
- Ion (c. 414 CC)
- Helen (412 CC)
- Merched Ffenicaidd (c. 410 CC)
- Orestes (408 CC)
- Bacchae ac Iphigeneia yn Aulis (405 CC)