Eutropius
Oddi ar Wicipedia
Hanesydd Rhufeinig oedd Eutropius (fl. 4edd ganrif). Roedd yn ysgrifenydd i'r ymerodr Cystennin ac ymladdodd yn erbyn y Persiaid dan Julian yn 363. Ei brif waith yw'r Breviarum historiae Romanae ("Braslun o hanes Rhufain"), mewn deg llyfr, sy'n dilyn cwrs hanes y ddinas a'r ymerodraeth o'i sefydlu gan Romulus hyd OC 364. Mae ei arddull yn syml a chryno ac mae'n debyg i Eutropus ei ysgrifennu ar gyfer ysgolion.
[golygu] Testunau ar-lein
- Eutropius, Breviarum historiae Romanae yn Saesneg, John Selby Watson (cyf.), (1853) (o Forum Romanum; y testun Lladin a chyfieithiad Saesneg)
- Eutropius, Eutropii Breviarium
- Eutropius, Eutropi Breviarium ab urbe condita cum versionibus graecis et Pauli Landolfique additamentis, Ed. Droysen, Hans. (o Monumenta Germaniae Historica Digital. Testun Lladin a Groeg, nodiadau etc.