Fan Brycheiniog
Oddi ar Wicipedia
Fan Brycheiniog Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin) |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Fan Brycheiniog o Lyn y Fan Fawr |
Uchder | 802m / 2,631 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mynydd uchaf cadwyn y Mynydd Du yn ne-orllewin Powys, bron ar y ffin â Sir Gaerfyrddin, yw Fan Brycheiniog. Er ei fod yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel rhan o'r Mynydd Du, cyfeirir ato weithiau fel un o Fannau Sir Gâr yn ogystal.
Mae'r llwybr gorau i'r copa yn cychwyn o bentref Llanddeusant.