Ffynnon Lloer
Oddi ar Wicipedia
Mae Ffynnon Lloer yn llyn o tua 6 acer ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Mae yn Sir Conwy ac yn gorwedd yng Nghwm Lloer i'r dwyrain o gopa Pen yr Ole Wen ac i'r de o gopa Carnedd Dafydd. Ceir pysgota da yno am frithyll, ac er fod y llyn yn un uchel, 2225 troedfedd uwch lefel y môr, ceir pysgota da yno yn gynnar iawr yn y tymor.
Gellir gweld gweddillion dwy awyren a faluriwyd ar y llethrau uwchben y llyn yn 1942 a 1943. Mae Afon Lloer yn llifo allan o'r llyn i ddisgyn dros dir garw i mewn i ben dwyreiniol Llyn Ogwen. Gellir cyrraedd Ffynnon Lloer trwy ddilyn llwybr syrth o ffermdy Tal-y-llyn Ogwen hyd lan yr afon honno.