Fidel Castro
Oddi ar Wicipedia
Mae Fidel Castro (ganwyd 13 Awst 1926) yn wleidydd o Cuba sydd wedi fod yn arlywydd ei wlad er 1959.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Moncada
Fe'i ganwyd yn fab i berchennog planhigiad siwgr cyfoethog yn 1926. Daeth i wrthwynebu polisïau a llywodraeth gormesol Fulgencio Batista. Ar 26 Gorffennaf 1953 arweiniodd ymosodiad aflwyddiannus ar faracs Moncada a chafodd ei garcharu hyd 1955.
[golygu] Granma
Treuliodd gyfnod o alltudiaeth ym Mexico â'i frawd Raoul lle cyfarfu â Che Guevara. Yn 1956 hwyliodd o Fexico ar y llong fach Granma gyda'i gyd-chwyldroadwyr arfog, yn cynnwys Che Guevara. Ar ôl cyfnod hir o wrthryfela ym mryniau coediog y Sierra Madre, llwyddodd i ddisodlu llywodraeth Batista pan gipiodd Havana ar 1 Ionawr, 1959.
[golygu] Argyfyngau
Sefydlodd lywodraeth sosialaidd a enillodd ddicter yr Unol Daleithiau oherwydd ei rhaglen o roi tir y meddianwyr tir mawr i'r werin ac am ei chefnogaeth agored i fudiadau chwyldroadol eraill yn ne a chanolbarth America. Ceisiodd yr Unol Daleithiau gael gwared o Castro a'i lywodraeth. Gosodwyd embargo economaidd ar Cuba gan yr Americanwyr. Y canlyniad fu i Castro droi fwyfwy at yr Undeb Sofietaidd am gymorth. Penllanw y cyfnod cythryblus hwnnw oedd goresgyniad y Bay of Pigs ac Argyfwng Taflegrau Cuba.
[golygu] Ar lwyfan y byd
Yn nes ymlaen ar ddiwedd y 1960au ac yn ystod y 1970au ceisodd Castro, gyda chryn raddau o lwyddiant, chwarae rôl ehangach ar y llwyfan ryngwladol fel un o arweinwyr y Gwledydd Amhleidiol (Non-Aligned Countries).
[golygu] Heddiw
Yn 2006 cafodd salwch a threuliodd gyfnod yn yr ysbyty. Ei frawd Raoul sy'n dwyn yr awennau yn ymarferol yn Cuba ar hyn o bryd er bod Fidel yn arlywydd y wlad o hyd.