Frances Newstead
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Frances Newstead |
Dyddiad geni | 5 Mai 1973 (34 oed) |
Gwlad | Lloegr |
Taldra | 1.75 m |
Pwysau | 62 kg |
Gwybodaeth Tîm | |
Disgyblaeth | Trac a Ffordd |
Rôl | Reidiwr a Hyfforddwr |
Tîm(au) Amatur | |
1998 1999-2001 2002-2003 2004 |
Holme Valley Wheelers AC Slumberland GS Strada AC Slumberland |
Prif gampau | |
![]() |
|
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
3 Hydref, 2007 |
Seiclwraig a hyfforddwraig trac a ffordd Seisnig ydy Frances Newstead (ganwyd 5 Mai 1973, Holmfirth, Gorllewin Efrog)[1]. Cynyrchiolodd Loegr yn Ras Bwyntiau, Treial Amser a Ras ffordd Gemau'r Gymanwlad 2002 yn Manceinion. Bu'n cystadlu yng Ngwpan y Byd Ffordd fel rhan o dîm Prydain Fawr yn 2003 a 2004.
Astudiodd Wyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Huddersfield. Erbyn hyn, mae hi'n gweithio i British Cycling yn Manceinion, yn helpu hyfforddi seiclwyr ifanc gorau Prydain a canfod talent newydd i fod yn ran o dîm Prydain.
Llywiodd Frances Melanie Easter ar y Tandem i drydydd safle ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain yn y categori anabal.
[golygu] Canlyniadau
- 2000
- 1af
Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd Prydain
- 1af
Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 10 Milltir
- 3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2002
- 2il Cymal Treial Amser, Ster van Walcheren
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
- 7fed Ras Bwyntiua, Gemau'r Gymanwlad
- 8fed Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad
- 8fed Ras Ffordd, Gemau'r Gymanwlad
12fed Holland Ladies Tour
- 2003
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
[golygu] Ffynonellau
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.