Francisco de Quevedo
Oddi ar Wicipedia
Boneddigwr, gwleidydd a bardd o Sbaen oedd Francisco Gómez de Quevedo y Santibáñez Villegas (17 Medi 1580 – 8 Medi 1645). Roedd ymysg beirdd mwyaf blaengar llenyddiaeth Sbaeneg yr Oes Aur.
Defnyddiwyd y cyfieithiadau Saesneg o'i waith dychanol Sueños y discursos neu Los Sueños ('Y breuddwydion', 1627) fel sylfaen i Gweledigaetheu y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne.