Gavin Henson
Oddi ar Wicipedia
Mae Gavin Lloyd Henson (ganed 1 Chwefror, 1982 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb Cymreig, ar hyn o bryd yn chwarae i'r Gweilch, fel canolwr yn bennaf.
Mae Henson yn fab i Alan Henson, a fu'n chwarae i Faesteg fel prop. Chwaraeodd rygbi dros ei ysgol, Ysgol Gyfun Brynteg.
Cafodd ei enwi fel "Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn" gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 2001. Daeth i amlygrwydd oherwydd ei berfformiadau dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon a De Affrica yn hydref 2004 ac yna ym Mhencampwriaeth y Chwech Gwlad yn 2005 pan enillodd Cymru y Gamp Lawn, yn enwedig pan giciodd y gôl gosb a sicrhaodd fuddugoliaeth dros Loegr yn y gêm gyntaf.
Fe'i dewiswyd ar gyfer taith y Llewod Prydeinig a Gwyddelig i Seland Newydd yn haf 2005. Cafodd ei adael allan o'r tîm ar gyfer y gêm brawf gyntaf er mwyn gwneud lle i Jonny Wilkinson chwarae fel canolwr. Bu llawer o ddadlau ynglyn â hyn, ac fe gafodd ei ddewis i chwarae yn yr ail gêm brawf. Cafodd ei anafu yn y gêm yma, ac ni chwaraeodd eto ar y daith nac ar ddechrau tymor 2005-06.
Am wahanol resymau, Gavin Henson sydd a'r proffeil uchaf o holl chwaraewyr presennol Cymru. Mae yn enwog fel cariad Charlotte Church, ac am eillio ei goesau o flaen gemau. Yn Hydref 2005 cyhoeddodd lyfr My Grand Slam Year, lle beirniadodd agweddau ar reolaeth taith y Llewod i Seland Newydd a'r ffaith fod chwaraewyr nad oeddynt yn Gymry yn medru cymhwyso ei hunain i chwarae yn y tîm cenedlaethol, yn ogystal a chyhuddo Brian O'Driscoll o geisio anafu ei lygad yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn 2005.
Ar Ragfyr 23ydd 2005 cafodd Gavin Henson ei wahardd am ddeg wythnos gan gynrychiolwyr y Cwpan Ewropiaidd Rygbi fel cosb am ddefnyddio ei ben-elin yn erbyn prop mewn gêm yn erbyn y Leicester Tigers.