Geiriadur yr Academi
Oddi ar Wicipedia
Geiriadur yr Academi (Saesneg: The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) yw'r geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed. Ffrwyth blynyddoedd o waith gan y golygyddion Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones ydyw. Fe'i cyhoeddwyd yn 1995 gydag argraffiad newydd diwygiedig yn dod allan ym Medi 2003.
Mae'n gyfrol swmpus o dros 1700 tudalen (tt. lxxxi + 1710) a gyhoeddir gan Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Yr Academi Gymreig. Cynhwysir llu o enwau Cymraeg am dermau newydd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, cyfrifiadureg, masnach, cyfryngau torfol, addysg, a.y.b.
[golygu] Manylion cyhoeddi
Geiriadur yr Academi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995; argraffiad newydd Medi 2003). ISBN 978-0-7083-1186-8