George Vancouver
Oddi ar Wicipedia
Fforiwr a llywiwr llongau o Sais oedd George Vancouver (22 Mehefin, 1757 - 12 Mai, 1798).
Hwyliodd gyda James Cook ar ail a thrydedd fordaith y morwr hwnnw a chafodd ei ddyrchafu'n gapten yn 1794. Gwnaeth waith syrfeio ar arfordiroedd Awstralia a Seland Newydd ond fe'i cofir yn bennaf am ei waith siartio arloesol ar hyd arfordiroedd gorllewinol Gogledd America yn y 1790au. Hwyliodd o gwmpas Ynys Vancouver yn 1795 ac enwir yr ynys honno a dinas Vancouver ar ei ôl.