Gerddi Crog Babilon
Oddi ar Wicipedia
Yn ôl y traddodiad gosododd y brenin Nebuchodonosor y gerddi enwog hyn i fyny o barch i'w wraig Amytis. Roedd hi'n enedigol o Ecbatana ym mryniau Medea ac wedi arfer cael y pleser o rodio ar fryniau uchel coediog ei gwlad. Mae Babilon yn sefyll ar wastadedd undonog braidd a hiraethai'r frenhines am fynyddoedd irwedd gwlad ei genedigaeth. Felly creodd y brenin erddi paradwysaidd iddi. Roedd y gerddi hyn yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.
Ceir ambell ddigrifiad ohonynt yng ngwaith awduron clasurol fel Quintus Curtius. Roedd y gerddi yn fath o fynydd artiffisial wedi'i greu o sawl teras yn esgyn y naill uwch law y llall fel pyramid grisiog; addasiad o hen dechneg a ddefnyddid i godi'r ziggurats ym Mesopotamia. Safai'r gerddi ar sylfeini cadarn o fur trwchus sgwar 400 troedfedd o hyd a lled â'r tu mewn iddo wedi'i lenwi â cherrig. Safai pob teras ar res o golofnau cedyrn a chodai'r gerddi i uchder o hyd at 300 troedfedd.
Llifai Afon Euphrates heibio i'r Gerddi Crog a thynid dŵr o'r afon â math o "sgriw" Archimedes i'w dyfrhau.
Roedd pobl yr hen Fesopotamia yn hoff o erddi ffurfiol, yn arbennig o gwmpas y temlau.
[golygu] Ffynhonnell
- M.G. Watkins, Natural History of the Ancients (Llundain, 1896)