Gliese 436 b
Oddi ar Wicipedia
Mae Gliese 436 b yn blaned allheulol tua maint Neifion sy'n cylchio'r corrach coch Gliese 436 yng nghytser y Llew, rhyw 30 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd.
Mae hi'n cymryd dau ddiwrnod a 15.5 awr i gylchio'r seren. Amcangyfrifir tymheredd y blaned i fod tua 439 C, mwy na'r disgwyl, sy'n awgrymu bod ei chylchdroad echreiddig yn achosi proses o lanw a thrai yn ei thymheredd.