Gliese 581 d
Oddi ar Wicipedia
Chwaer y blaned allheulol Gliese 581 c ydy Gliese 581 d. Fel ei chwaer, mae Gliese 581 d yn blaned ddaearol fawr, neu super-earth, ac mae hi'n chwaer fawr, gyda chrynswth sydd 7.7 gwaith yn fwy na'r Ddaear (nid ydy Gliese 581 c ond pum gwaith yn fwy).
Tra mae lleoliad Gliese 581 c ar ochr cynnes ardal drigiadwy y seren Gliese 581, mae lleoliad y blaned Gliese 581 d ar gyrion ochr oer yr ardal yma, rhyw 0.25 o Unedau Seryddol oddi wrth y corrach coch, ac mae hi'n cymryd 84.4 o ddyddiau i gylchio'r seren fach. Serch ei lleoliad credir bod yna bosibilrwydd y gallai bywyd fodoli arni os ydy cyflwr atmosfferig y blaned yn creu effaith tŷ gwydr, sydd yn debygol iawn yn ôl modelau damcanol.
Mae cysawd y corrach coch Gliese 581 yng nghytser y Fantol felly yn un o ddiddordeb mawr i wyddonwyr, oherwydd presennoldeb dwy blaned a allai gynnal bywyd.