Golan (Beibl)
Oddi ar Wicipedia
- Am enghreifftiau eraill o'r gair, gweler Golan.
Dinas y cyfeirir ati yn y Beibl fel un o'r chwech Dinas Noddfa yw Golan. Roedd yn un o'r 48 tref a roddwyd i'r Lefiaid yn yr Hen Destament. Mae ei union safle yn ansicr. Dywedir ei bod ym Masan yn rhandir Manasse, rhywle yng nghyffiniau Ucheldiroedd Golan heddiw, efallai.