Gruffudd Bola
Oddi ar Wicipedia
Roedd Gruffudd Bola (fl. 1265 - 1282) yn llenor yn yr iaith Ladin.
Ychydig a wyddys amdano. Fe'i gysylltir gan rai awdurdodau ag abaty Ystrad Fflur. Mae'r enw Bola yn ffurf Gymraeg ar y cyfenw Saesneg Bole.
Cyfieithodd Credo Athanasius Sant i'r Gymraeg rywbryd yn 60au neu 70au'r 13eg ganrif.
Ymgymerodd â'r gwaith hwnnw er mwyn Efa, ferch Maredudd ap Owain, un o ddisgynyddion Rhys ap Gruffydd (yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth) a chwaer i Gruffudd ap Maredudd, a ofynnodd am gyfieithiad o'r Transitus. Un o ddisgynyddion Efa, Gruffudd ap Llywelyn, a gomisiynodd ancr Llanddewibrefi i ysgrifennu compendiwm pwysig o destunau crefyddol Cymraeg a adnabyddir fel Llyfr Ancr Llanddewibrefi (neu Lyfr yr Ancr).