Cookie Policy Terms and Conditions Guan Hanqing - Wicipedia

Guan Hanqing

Oddi ar Wicipedia

Yr oedd Guan Hanqing (Tsieinëeg 關漢卿) (fl. tua 1241-1320), a elwid hefyd "Henwr y Fyfyrgell" (齋叟 Zhāisǒu), yn ddramodydd yn yr iaith Tsieinëeg lafar, a anwyd yn Dadu, prifddinas Ymerodraeth yr Yuan (Anguo, talaith Hebei, China heddiw). Fe'i ystyrir yn un o bedwar dramodydd mawr y Ddrama Yuan.

Taflen Cynnwys

[golygu] Cefndir

Ar ôl goresgyn Teyrnas Jin yng ngogledd Tsieina, sefydlodd y Mongoliaid ei brifddinas yn Cambaluc (neu Khan-balic) yn 1264. Yn 1279, yn sgîl dymchweliad Brenhinllin Song y De, daeth Cambaluc yn brif ganolfan economaidd, wleidyddol a diwyllianol y wlad. Aeth nifer o lenorion gorau'r cyfnod i fyw yn Cambaluc a sefydlasant Gymdeithas Llyfrau Yu-jing yno. Daeth Yuan Hanqing yn aelod o'r gymdeithas honno ac enillodd enw iddo'i hun yn fuan. Yn ystod ei ieunctid bu'n fyfyriwr dyfal a dysgodd cyfansoddi cerddi a chaneuon o bob math, clasurol a phoblogaidd. Daeth yn adnabyddus yn y brifddinas am allu cerddorol, ei synnwyr digrifwch, a'i hyblygrwydd fel llenor.

[golygu] Gyrfa Yuan

Roedd y cyfnod rhwng canol y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif yn Oes Aur drama Yuan a llifai nifer fawr o ddramodwyr o fri i Cambaluc. Yn ystod ei arosiad yno ffurfiodd Yuan Hanqing gwmni drama ac weithiau troediai'r llwyfan ei hun. Yr oedd felly'n gyfarwydd â phob agwedd o fyd y ddrama.

Rhwng yr 11eg ganrif a'r 13eg ganrif roedd y canu a'r dawnsio i gyd yn y dramau a'r operau Tsieineaidd yn cael ei berfformio gan ferched "singsong". Roedd llawer o'r merched hyn wedi cael eu gwerthu i buteindai gan eu rhieni tlawd neu wedi'u hanfon iddynt am fod eu teuluoedd wedi gwrthwynebu'r llywodraeth. Mewn canlyniad roedd ei statws cymdeithasol yn isel iawn. Roedd Guan Hanqing yn llawn cydymdeimlad â nhw a merched a dynion eraill oedd yn byw ar ymylon cymdeithas. Am ei bod yn eu hadnabod mor dda roedd yn awyddus i hyrwyddo eu hachos yn yr unig ffordd a fedrai, sef trwy ei ddramâu. Dysgodd hefyd nifer o dechnegau canu a dawnsio gwerinol, ynghyd ag iaith y werin, ac ymgorfforodd yr elfennau hyn yn ei ddramâu.

[golygu] Ei ddramâu

Golygfa o opera Tsieinëaidd (llun o'r 19eg ganrif)
Golygfa o opera Tsieinëaidd (llun o'r 19eg ganrif)

Ysgrifenodd Guan y rhan fwyaf o'i ddramau yn ail hanner y 13eg ganrif. Roedd yn ddramodydd toreithiog. Mae teitlau dros 60 o'i ddramâu yn adnabyddus heddiw ac mae testunau deunaw ohonynt ar glawr.

Mae rhai ohonynt yn trin pynciau cymdeithasol, er enghraifft:

  • Eira ganol haf
  • Y dyn a ladratai wragedd priod
  • Breuddwyd y Pili-pala

Mae eraill yn cymryd cariad a phriodas (yn erbyn yr ewyllys) yn themâu:

  • Y dyn a achubwyd gan hoeden
  • Y pafiliwn ar lan yr afon
  • Y ffrâm drych siét

Ysgrifenodd hefyd ddramâu hanesyddol. Y ddwy sy fwyaf adnabyddus yw:

  • Yr Arglwydd Guan yn y wledd
  • Marwolaeth y Cadfridog Esgyll-Deigr

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Yang Xianji a Gladys Yang (gol.), Selected Plays of Guan Hanqing (Beijing, 1958; argraffiad newydd, 1979)
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu