Guto Harri
Oddi ar Wicipedia
Gohebydd gwleidyddol gyda'r BBC yw Guto Harri (ganwyd 1966). Yn Gymro Cymraeg cafodd ei fagu yng Nghaerdydd, yn fab i'r meddyg a llenor Harri Pritchard Jones a'i wraig Lena Pritchard Jones, a oedd yn gynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda'r BBC. Mae ei chwaer hefyd yn ohebydd gyda'r BBC yn gweithio yn ardal Abertawe, yn bennaf drwy'r Gymraeg.