Gwaed
Oddi ar Wicipedia
Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydweliau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys plasma, celloedd coch a chelloedd gwyn. Dyma'r prif system drafnidiaeth o fewn y corff, gan gynnwys darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff.
Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff. Celloedd coch yw'r unig rhai yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.
Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair Groeg am waed - haemato.
Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae tua 4 a hanner i bump litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.