Gwefan
Oddi ar Wicipedia
Casgliad o dudalennau gwe, delweddau, fidoes, neu ddeunydd digidol eraill a letyir gan wasanaethydd gwe ac sy'n cael ei gyrraedd trwy'r rhyngrwyd neu LAN yw gwefan.
Mae gwefan yn ddogfen, wedi'i hysgrifennu yn HTML fel rheol, sydd ar gael ymhob achos bron trwy HTTP, y protocol sy'n trosglwyddo gwybodaeth o'r gwasanaethydd gwe i gael ei harddangos ym mhorwr y defnyddiwr.
Gyda'i gilydd, ystyrir fod pob gwefan sydd ar gael i'r cyhoedd yn ffurfio'r "Gwe Fyd-eang".
Ym Mawrth 2007 roedd 'na dros 110 miliwn o wefannau ar y Gwe Byd-eang.