Gwrgan Fawr
Oddi ar Wicipedia
Brenin teyrnas Erging yn hanner cyntaf y seithfed ganrif oedd Gwrgan Fawr (Lladin, Gurgantius) (bu farw tua 645).
Roedd yn fab ac etifedd i'r brenin Cynfyn, brenin Erging, teyrnas Gymreig gynnar yn yr hyn sy'n Swydd Henffordd heddiw. Ymddengys i'r orsedd gael ei feddianu gan Gwrfoddw, un o feibion eraill Cynfyn, pan fu farw'r brenin hwnnw, ond daeth Gwrgan yn frenin ar ôl hynny. Cofnodir enw Gwrgan Fawr fel brenin Erging yn y siarteri cynnar yn Llyfr Llandaf.
Mae'r ymchwilydd David Nash Ford yn ceisio ei uniaethu â Gwrgan Frych y cyfeirir ato ym Muchedd Sant Cadog, gan awgrymu ei fod yn rheoli yn nheyrnas Glywysing. Mae'r cysylltiad yn ddadleuol.
Ar farwolaeth Gwrgan, etifeddwyd Erging gan ei ŵyr ar ochr ei fam, Athrwys ap Meurig, yn hytrach na gan ei feibion Caradog a Morgan.