Gwylan (aderyn)
Oddi ar Wicipedia
Gwylanod | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() Gwylan Gefnddu Fwyaf yng Nghernyw
|
||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||
|
||||||||||||
Genera | ||||||||||||
Pagophila |
Aderyn a gysylltir â glan y môr yw gwylan (lluosog gwylanod).
Mae'r wylan yn bwyta pysgod wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwyta pob math o gig, wyau adar eraill, hadau a llysiau a hefyd anifeiliaid wedi marw a phob math o fudreddi. Mae'n lladd a bwyta crancod trwy hedfan yn uchel a'u gollwng ar y creigiau fel bod y crancod yn torri'n ddarnau. Yng Nghymru yr ydym yn eu gweld yn dilyn aradr, hyd yn oed filltiroedd i mewn i'r tir mawr, yn casglu mwydon a chynrhon wrth iddynt ddod i'r wyneb. Bydd yr wylan yn bwydo ei rhai bach drwy godi cil.
Ymhlith y gwahanol fathau o wylanod mae Gwylan Benddu, Gwylan y Penwaig, Gwylan Gefnddu Fwyaf, Gwylan Gefnddu Leiaf, Gwylan y Gweunydd a Gwylan Goesddu