Gwyn Thomas (bardd)
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl hon yn trafod y bardd Cymraeg ac ysgolhaig. Os am ddarllen am y llenor Eingl-gymreig Gwyn Thomas pwyswch yma.
Bardd Cymraeg ac ysgolhaig yw Gwyn Thomas (1936 - ). Ganed ef yn Nhanygrisiau a chafodd ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog. Am flynyddoedd lawer bu'n athro yn yr Adran Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor ac yn ddiweddarach yn bennaeth yr adran honno. Yn 2006 cafodd ei gyhoeddi yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Mae ei ddefnydd o ymadroddion Cymraeg llafar toredig, ansicr a Seisnigedig yn nodweddiadol o'i waith.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gweithiau
[golygu] Ysgolheictod
- Y Bardd Cwsg a'i Gefndir (1971). Astudiaeth o waith Ellis Wynne.
- Yr Aelwyd Hon (1970). Gwaith y Cynfeirdd.
- Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976).
- Gruffydd ab yr Ynad Coch (1982). Barddoniaeth Gruffudd ab Yr Ynad Coch, un o'r pennaf o Feirdd y Tywysogion.
- Ymarfer Ysgrifennu (1977)
- Presenting Saunders Lewis (1973) - cyd-olygydd
- Diwéddgan (1969), cyfieithiad o Fin de Partie gan Samuel Beckett yn y gyfres Dramâu'r Byd; roedd hefyd yn olygydd y gyfres
- diweddariad o Pedair Cainc y Mabinogi (1984)
- Tales from the Mabiniogion (1984) - cyfieithiad o rai o'r Mabinogion ar y cyd â Kevin Crossley-Holland
- Duwiau'r Celtiaid (1992) 'Llyfrau Llafar Gwlad'; Gwasg Carreg Gwalch
- Gair am Air - Ystyriaethau am Faterion Llenyddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
- Dafydd ap Gwilym: Y Gŵr wrth Gerdd (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2003)
[golygu] Barddoniaeth
- Chwerwder yn y Ffynhonnau (1962)
- Y Weledigaeth Haearn (1965)
- Enw'r Gair (1972)
- Y Pethau Diwethaf a Phethau Eraill (1975) Gwasg Gee
- Cadwynau yn y Meddwl (1976) Gwasg Gee - cerdd ar gyfer y teledu
- Croesi Traeth (1978) Gwasg Gee
- Symud y Lliwiau (1981)
- Wmgawa (1984) Gwasg Gee
- Gwelaf Afon (1990) Gwasg Gee
- Am Ryw Hyd (1996) Gwasg Gee
- Darllen y Meini (1998) Gwasg Gee
- Apocalups Yfory (2005) Cyhoeddiadau Barddas
[golygu] Dramâu
- Lliw'r Delyn (1969)
- Amser Dyn (1972) Gwasg Gee
[golygu] Ysgrifau
- Sawl Math o Gath (2002) Gwasg Carreg Gwalch
[golygu] Llyfryddiaeth
- Alan Llwyd, Gwyn Thomas yn y gyfres Llên y Llenor (Caerdydd, 1984)