Gwynhoedl
Oddi ar Wicipedia
Sant o Gymro oedd Gwynhoedl (hefyd Gwynodl, Gwynhael a Vendeseti yn Lladin: fl. 5ed ganrif - 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Seithenyn, ceidwad llifddorau Gwyddno Garanhir, brenin Cantre'r Gwaelod. Dywedir hefyd ei fod yn frawd i Sant Tudno, nawddsant Llandudno.
Treuliodd beth amser ym mynachlog Bangor Is-Coed. Oddi yno aeth i benrhyn Llŷn a sefydlodd eglwys Llangwnadl (neu Llangwynoedl). Fe'i coffheir ar garreg arysgifiedig ym mhentref Llannor, hefyd yn Llŷn, lle ceir yr enw VENDESETI. Yn ôl traddodiad defnyddid y gloch efydd a geid yn eglwys Llangwnadl gan y sant i erlid ysbrydion drwg.
Ceid yn ogystal Ffynnon Wynhael yn Wolvesnewton yn Sir Fynwy, yn ôl ffynhonellau o'r 15fed ganrif a'r 16eg ganrif.
[golygu] Ffynhonnell
- T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Glyndŵr Publishing, 2000)