Gwynllŵg
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd cantref Gwynllŵg (llurguniad Seisnig : Wentloo) yn un o saith cantref Morgannwg yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd yn gorwedd rhwng afonydd Rhymni a Wysg.
Yn wreiddiol bu Gwynllŵg yn rhan o deyrnas Glywysing. Fe'i enwir ar ôl Gwynllyw, sant o'r 5ed ganrif. Dyma gantref mwyaf dwyreiniol Morgannwg, ar ffurf llain gul o dir rhwng cantref Senghennydd i'r gorllewin a Gwent i'r dwyrain, yn ymestyn o lan Môr Hafren i fyny i droedfryniau Brycheiniog.
Yn ôl y rhestr o gantrefi a chymydau yn Llyfr Coch Hergest, rhennid Gwynllŵg yn bump cwmwd :
- Cwmwd yr Haidd
- Cwmwd y Dref Berfedd
- Cwmwd Edelygion(?)
- Cwmwd Eithaf
- Cwmwd y Mynydd
Fodd bynnag mae rhaid trin tystiolaeth rhestr y Llyfr Coch yn ofalus. Cafodd ei lunio ar ddiwedd y 14eg ganrif ac mae'n adlewyrchu y newidiadau yn nhrefn weinyddol yr ardal a wnaed gan Normaniaid de Cymru.
Canolfannau eglwysig pwysicaf Gwynllŵg yn yr Oesoedd Canol oedd eglwys Gwynllyw a Basaleg, mam-eglwys yr ardal a pherchennog rhan helaeth o'r tir rhwng afon Rhymni ac afon Ebwy.
Mae hanes cynnar Gwynllŵg yn dywyll. Yn fuan ar ôl y flwyddyn 1090, daeth yn rhan o dir y Normaniad Robert fitz Hamo, fel Arglwydd Morgannwg. Daeth iseldir y cantref yn ardal drwm dan ddylanwad Normanaidd, ond arosodd yr ucheldir, yn arbennig arglwyddiaeth Machen, yn Gymreig iawn dan arglwyddi Cymreig lleol. O 1347 ymlaen bu'n un o diroedd y teulu Stafford. Pan ddienyddwyd Edward Stafford, Dug Buckingham, yn 1521 meddianwyd Gwynllŵg gan Goron Loegr.
[golygu] Cyfeiriadau
- R. R. Davies, Conquest, coexistence and change, Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1987)
- J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 3ydd arg., 1937)