Gylfin Groes
Oddi ar Wicipedia
Gylfin Groes | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Loxia curvirostra (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Gylfin Groes (Loxia curvirostra) yn perthyn i'r teulu Fringillidae, y llinosiaid. Enw arall arno yw'r Croesbig. Mae'n nythu trwy'r rannau helaeth o Ewrop, gogledd Asia a gogledd America, fel rheol mewn coedwigoedd conifferaidd.
Nid'w yw'n aderyn mudol fel rheol, ond ambell dro mae nifer fawr ohonynt yn symud tua'r de a'r gorllewin os oes prinder bwyd yn eu cynefin arferol. Tu allan i'r tymor nythu mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau gyda rhywogaethau gylfingroes eraill.
Caiff ei enw o'r ffaith fod dau hanner y pig yn groes, fel nad ydynt yn cyfarfod eu gilydd yn y tu blaen. Addasiad i fwydo ar gonau coed conifferaidd yw hyn. Mae'r ceiliog yn lliw goch fel rheol, a'r iâr a'r adar ieuanc yn wyrdd, ond mae rhywfaint o amrywiaeth.
Yng Nghymru mae'n aderyn gweddol hawdd ei adnanod, oherwydd dyma'r unig rywogaeth gylfingoes sy'n nythu, ac anaml iawn y gwelir unrhyw un o'r rhywogaethau eraill. Lle ceir nifer o rywogaethau gall fod yn anodd iawn gwahaniaethu rhyngddynt, er enghraifft yn Yr Alban lle ceir Croesbig yr Alban a'r Croesbig Mawr. Gall maint y pig fod yn gymorth i'w gwahaniaethu, ac mae'r alwad ychydig yn wahanol