Hagia Sophia
Oddi ar Wicipedia
Adeiladwyd Hagia Sophia (Groeg: Άγια Σοφία, Twrceg Ayasofya), fel eglwys rhwng 532 a 537 yng Nghaergystennin, yn awr Istanbwl, Twrci. Ystyr yr enw yw "(Eglwys y) Doethineb Sanctaidd".
Fe'i hadeiladwyd yn ystod teyrnasiad Justinian fel ymerawdwr yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac ystyrir yr adeilad fel un o gampweithiau pensaernïaeth Fysantaidd. Y penseiri oedd dau Roegwr, Antemios o Tralles ac Isidoros o Miletus. Defnyddiwyd yr adeilad fel eglwys am 916 mlynedd, hyd nes i'r Ymerodraeth Ottomanaidd gipio Caergystennin yn 1453. O hynny hyd 1935 bu'n gweithredu fel mosg, ond yn y flwyddyn honno cafodd yr adeilad ei droi yn amgueddfa.