Hans Holbein yr Ieuaf
Oddi ar Wicipedia
Roedd Hans Holbein yr Ieuaf (c.1497 - 1543) yn arlunydd o'r Almaen, a ganed yn Augsburg.
Diolch i'w gyfaill Erasmus, cafodd nawdd Syr Thomas More yn Lloegr. Ymsefydlodd yn y wlad honno yn 1532 a daeth yn enwog am y cyfresi o luniau a wnaeth o fawrion y dydd.
Roedd ei dad, Hans Holbein yr Hynaf, hefyd yn baentiwr o fri.