Harriet Beecher Stowe
Oddi ar Wicipedia
Roedd Harriet Elizabeth Beecher Stowe (14 Mehefin, 1811 – 1 Gorffennaf, 1896) yn nofelydd Americanaidd ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth. Mae'n fwyaf enwog fel awdur y nofel Uncle Tom's Cabin (1852).
Ganed hi yn Litchfield, Connecticut, yn ferch i Lyman Beecher a Roxana Foote Beecher. Dywedir fod y teulu o dras Cymreig. Roedd ei thad yn bregethwr, a daeth ei brawd, Henry Ward Beecher, i amlygrwydd fel pregethwr yn ddiweddarch. Yn 1836 priododd Calvin Ellis Stowe, yntau'n weinidog, a symudasant i Brunswick, Maine. Cawsant saith o blant , ond bu farw pedwar ohonynt o flaen Harriet.
Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif yn 1851, yn rhannol oherwydd ei hawydd i wneud rhywbeth i wrthwynebu caethwasiaeth, gyda chefnogaeth William Lloyd Garrison, golygydd The Liberator. Ymddangosodd ei gwaith yn y papur The National Era dan y teitl Uncle Tom's Cabin or Life Among the Lowly. Yn 1852 cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr, a bu'n llwyddiant enfawr. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.
[golygu] Gweithiau (anghyflawn)
- The Mayflower; or, Sketches of Scenes and Characters Among the Descendants of the Pilgrims (1834)
- Uncle Tom's Cabin (1852)
- A Key to Uncle Tom's Cabin (1853)
- Dred, A Tale of the Great Dismal Swamp (1856)
- The Minister's Wooing (1859)
- The Pearl of Orr's Island (1862)
- Fel "Christopher Crowfield"
- House and Home Papers (1865)
- Little Foxes (1866)
- The Chimney Corner (1868)
- Men of Our Times (1868)
- Old Town Folks (1869)
- Little Pussy Willow (1870)
- Lady Byron Vindicated (1870)
- My Wife and I (1871)
- Pink and White Tyranny (1871)
- Palmetto-Leaves (1873)
- We and Our Neighbors (1875)
- Poganuc People (1878)