Helen Thomas
Oddi ar Wicipedia
Cafodd Helen Thomas (16 Awst 1966 - 5 Awst 1989) ei lladd yng Ngwersyll Greenham pan yrrodd fan geffylau Heddlu Canolbarth Gorllewin Lloegr yn rhy agos ati fel yr oedd yn sefyll ar ochr y ffordd. Cymraes o Gastell Newydd Emlyn oedd hi, yn caru'r ei hiaith a'i diwylliant.
Roedd merched y gwersyll wedi neulltio ardal dawel, i gofio Helen, lle gallai'r merched dreulio amser tawel a myfyrio. Daeth beiliaid Cyngor Dosbarth Newbury a dinistrio'r lle yn bwrpasol.
Ar ôl cau'r gwersyll, ym mis Medi 2000 penderfynwyd codi safle goffa a hanesyddol yno gan gynnwys Gardd Goffa Helen.