Herodotus
Oddi ar Wicipedia
Hanesydd Groeg oedd Herodotus neu Herodotus o Halicarnassus (Groeg Hρόδοτος hλικαρνoσσεύς) (c.485 CC - 425 CC), a aned yn Halicarnassos, trefedigaeth Roegaidd ar arfordir deheuol Asia Leiaf. Cicero a'i alwodd yn "Dad Hanes" am y tro cyntaf.
Pan ddaeth y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf yn rhydd o reolaeth Persia, teithiodd Herodotus yn Asia Leiaf, ynysoedd Môr Aegea, Gwlad Groeg, Macedonia, Thrace, arfordir y Môr Du, Persia, Tyre a Ffenicia, yr Aifft a Cyrenaica. Yn 443 CC aeth i'r drefedigaeth Athenaidd newydd Thurii, ar Gwlff Tarentino. Oddi yno ymwelodd â Sisili a sawl dinas yn ne'r Eidal. Roedd yn ddyn chwilfrydig iawn, a chasglai bob math o ddeunydd yn ymwneud â hanes, mytholeg, daearyddiaeth, ethnoleg ac archaeoleg yr Henfyd a'r tu hwnt.
Ei fwriad oedd cyfansoddi llyfr hanes yn olrhain cwrs ac achosion y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r barbaroi (barbariaid neu estronwyr). Mae ei lyfr enwog yr Historiai yn dechrau gyda chwncwest y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf gan yr ymerodr Persiaidd Croesus. Wedyn cawn hanes Lydia, Persia, Babilon a'r Hen Aifft. Mae'r llyfr yn gorffen â hanes y Rhyfeloedd Persiaidd (500 CC - 479 CC).