Hokusai
Oddi ar Wicipedia
Roedd Katsushika Hokusai, (葛飾北斎), (1760 - 18 Ebrill 1849) yn un o arlunwyr ukiyo-e amlycaf y Cyfnod Edo yn Japan.
Ganed ef yn Edo (yn awr Tokyo); ei enw pan yn blentyn oedd Tokitarō. Yn 14 oedd aeth yn brentis i gerfiwr coed, yna yn 18 oed daeth yn ddisgybl yn stiwdio Katsukawa Shunshō, pennaeth Ysgol Katsukawa.
Bu Hokusai yn gweithio fel arlunydd am gyfnod hir, ond cynhyrchodd ei waith gorau wedi iddo basio 60 oed. Ei waith enwocaf yw'r gyfres ukiyo-e 36 Golygfa o Fynydd Fuji (富嶽三十六景 Fugaku Sanjūrokkei), a greodd rhwng 1826 a 1833. Mae'n cynnwys llun enwocaf Hokusai, Y Don Fawr ger Kanagawa, un o'r lluniau mwyaf adnabyddus yn y byd. Roedd Mynydd Fuji yn ymddangos yn gyson yn ei luniau.