Howard Marks
Oddi ar Wicipedia
Daeth Dennis Howard Marks, neu Mr. Nice, (ganwyd 13 Awst 1945 yn Mynydd Cynffig, ger Pen-y-bont ar Ogwr) yn ddrwg-enwog fel smyglwr hashish rhyngwladol trwy nifer o achosion llys â phroffil uchel, cysylltiadau tybiedig gyda grŵpiau megis MI6, yr IRA, a'r Mafia, a'i euogfarniad yn y pen draw gan Weinyddiaeth Gorfodaeth Cyffuriau Americanaidd.
Mynychodd Ysgol Ramadeg Garw a Coleg Balliol, Rhydychen rhwng 1964 a 1967 i astudio Gradd (B.A., Oxon) Gwyddoniaeth Naturiol, Ffiseg cyn astudio ym Mhrifysgol Llundain rhwng 1967 ac 1968 (graddiodd o'r Athrofa Ffiseg). Dychwelodd i Balliol, Rhydychen i astudio Hanes ac Athroniaeth (Dip. H.Ph. Sc.) rhwng 1968 a 1969, ac yna i Brifysgol Sussex i astudio Athroniaeth Gwyddoniaeth rhwng 1969 a 1970 (M.A., Oxon).
Erbyn hyn mae'n byw yn Palma de Mallorca. Fe dreuliodd saith mlynedd wedi ei garcharu ym Mhenydfa'r Unol Daleithiau, Terre Haute. Yn ystod ei yrfa smyglo, mae'n honedig iddo wrthod defnyddio trais a gwrthododd i ddelio mewn cyffuriau caled. Estraddodwyd ef a'i gyn-wraig erbyn hyn, Judy Marks, o Mallorca, Sbaen i Florida. Mae ganddynt dri o blant; Amber, Francesca a Patrick. Mae ganddo hefyd ferch hŷn, Myfanwy, o berthynas pum mlynedd gyda Rosie Lewis.
Ers ei ryddhâd o'r carchar, mae Marks wedi cyhoeddi hunangofiant, Mr Nice (Secker and Warburg, 1996), a ddaeth yn werthwr-gorau, ac sydd wedi cae ei gyfieithu i nifer o ieithoedd. Ynghyd â Mr Nice, mae hefyd wedi casglu antholeg The Howard Marks Book of Dope Stories (Vintage, 2001) ac yn fwy diweddar, dilyniant i'w hunangofiant; Señor Nice: Straight Life From Wales to South America. Yn 2003, cyhoeddodd un o bartneriaid Howard yn y 'movement of beneficial herbs industry', Phil Sparrowhawk hunangofiant ei hun, a'i ysgrifennwyd gyda Martin Knight, Grass, (Mainstream 2003). Mae Marks yn ymgyrchydd drost gyfreithloni cannabis ac mae'n teithio'r byd fel sioe un dyn. Ymdangosodd hefyd yn y rhaglen ddogfen Stoned in Suburbia a'i ddarlledwyd ar Sky One ym Mhrydain.
Mae Judy Marks hefyd wedi ysgrifennu hunangofiant o'u bywyd gyda'u gilydd, Mr Nice and Mrs Marks, a'i gyhoeddwyd gan Ebury Press yn 2006.
Sefodd Howard Marks fel ymgeisydd ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 1997, dros fater sengl yr ymgyrch i gyfreithloni cannabis. Cystadlodd am bedair sedd ar unwaith: De Norwich (yn erbyn yr ysgrifennydd cartref i ddod Charles Clarke), Gogledd Norwich, Castell-nedd a Southampton Test. Enillodd bleidlais ar gyfartaledd o 1%.
Arweiniodd hyn at ffurfiad y Legalise Cannabis Alliance (LCA) gan Alun Buffry yn 1999.
[golygu] Cyfeirnodau yn niwylliant poblogaidd
- Mae Howard Marks yn gwneud ymddangosiad cameo yn y ffilm Human Traffic, yn disgrifio 'gwleidyddiaeth sbliff'.
- Mae ymddangosiad cameo arall yn y gomedi sefyllfa Germination ar MTV UK, sydd yn dilyn dau flatmate sy'n delio cyffuriau, [1].
- Ef yw'r Diafol yn Dirty Sanchez: The Movie
- Mae'n destun i'r gân Hangin' with Howard Marks gan y Super Furry Animals, a'i ryddhawyd ar eu halbwm Fuzzy Logic, mae Marks yn ymddangos ar y clawr mewn amryw o guddwisgoedd - lluniau pasbost honedig o'i oes fel trafnidiwr cyffuriau. Daethont yn ffrindiau yn ddiweddarach, gan haeddu sôn yn ei hunangofiant.