Howard Winstone
Oddi ar Wicipedia
Paffiwr Cymreig fu'n bencampwr pwysau plu y byd oedd Howard Winstone (15 Ebrill, 1939 - 30 Medi, 2000).
Ganed Winstone ym Merthyr Tydfil. Wedi iddo enill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958, daeth yn baffiwr pwysau plu proffesiynol. Eddie Thomas oedd ei reolwr. Enillodd bob un o'i 34 gornest gyntaf, gan ddod yn bencampwr Prydain yn 1961, ac wedyn yn bencampwr Ewrop. Methodd yn ei dair ymgais gyntaf i ddod yn bencampwr y byd; cafodd ei guro dair gwaith gan y pencampwr Vicente Saldivar, ond ar y pedwaredd cynnig gorchfygodd Mitsunori Seki o Japan ym mis Mehefin 1968. Collodd ei deitl i Jose Legra mewn gornest ym Mhorthcawl ychydig fisoedd wedyn, a chyhoeddodd ei ymddeoliad.
Enwyd ef fel Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC Cymru yn 1963. Yn 2005, curodd Owen Money, Richard Trevithick, Joseph Parry a'r Arglwyddes Charlotte Guest am y teitl "Dinesydd Mwyaf Merthyr Tydfil" mewn pleidlais gyhoeddus.