Huw Derfel
Oddi ar Wicipedia
Bardd a hanesydd lleol oedd Huw Derfel, enw llawn Hugh Derfel Hughes (1816 - 1890). Roedd yn frodor o Landerfel, Sir Feirionnydd, ond treuliodd ran sylweddol o'i oes ym Methesda, Gwynedd, lle gweithiai yn y chwarel. Roedd yn daid i'r ysgolhaig enwog Ifor Williams.
Cyhoeddodd lyfr ar hanes y fro, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Ei gyfrol fwyaf unigryw yw Llawlyfr Carnedd Llywelyn (1864), y llawlyfr mynydd cyntaf yn y Gymraeg. Ffrwyth cystadleuaeth 'Llaw-lyfr i ben Carnedd Llewelyn, a'r mynyddoedd cylchynol' yn Eisteddfod Cymreigyddion Bethesda, 1864, oedd y llawlyfr, ac fe'i cyhoeddwyd yn y Cyfansoddiadau er nad oedd y gyfrol fuddugol.
Cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth yn null poblogaidd y dydd. Ei gyfrol fwyaf llwydiannus oedd Blodeu'r Gân (1841).
[golygu] Llyfryddiaeth
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922)
- Ioan Bowen Rees, Bylchau (Caerdydd, 1995). Ceir sôn am Huw Derfel a'i lawlyfr yn y bennod gyntaf, 'Llawlyfr Carnedd Llywelyn'.