Hywel Gwynfryn
Oddi ar Wicipedia
Cyflwynydd radio Gymraeg yw Hywel Gwynfryn (ganwyd 13 Gorffennaf 1942). Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn, a'i addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd.
Dechreudd gyflwyno rhaglen bop Helo Sut Da Chi? yn 1968. Mae wedi bod yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru ers sefydliad y sianel. Cyflwynodd raglen Helo Bobol, ac mae'n cyflwyno o faes yr Eisteddfod ar Radio Cymru yn flynyddol. Erbyn hyn mae'n cyd-gyflwyno rhaglen Hywel a Nia.
Mae wedi ysgrifennu y geiriau i nifer o ganeuon pop.
Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Cyfres y Cewri 28: Y Dyn 'I Hun ym mis Tachwedd 2004 gan Wasg Gwynedd (ISBN: 9780860742050).