Idris Gawr
Oddi ar Wicipedia
Cawr a gysylltir ag ardal Cadair Idris ym Meirionnydd oedd Idris Gawr neu Idris.
Yn ôl y rhestr o gewri Cymru a luniwyd gan yr hynafiaethydd Siôn Dafydd Rhys tua diwedd yr 16eg ganrif, Idris oedd y pennaf o bedwar cawr oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas Dolgellau (Ysgydion, Offrwm ac Ysbryn oedd enwau'r lleill, a cheir yr enwau ar fryniau yn y cylch heddiw).
Cysylltir Idris â'r mynydd sy'n dwyn ei enw. i'r dwyrain o Ddolgellau. Byddai'n arfer mynd i gwm uchel ar y mynydd ac eistedd yno i astudio'r sêr, a dyna sut y cafodd y copa yr enw Cadair Idris, yn ôl y chwedl. Dywedir hefyd y byddai unrhyw un a dreuliai'r noson ar gopa Cadair Idris ar ei ben ei hun yn dod i lawr yn y bore yn wallgo neu'n fardd. Ceir 'Gwely Idris' ar y mynydd ger Llyn y Gadair hefyd.
[golygu] Cyfeiriadau
- Siôn Dafydd Rhys, 'Olion Cewri', yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)
- T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg. newydd 1979)